Mae’r pleidleisio wedi dechrau ar gyfer cystadleuaeth Ci y Flwyddyn gyntaf erioed y Senedd ac mae AS Gorllewin Clwyd Darren Millar yn awyddus i bobl bleidleisio dros ei gi achub annwyl, Blue.
Yn dilyn llwyddiant digwyddiad hoff gi San Steffan a Holyrood, mae'r Kennel Club yn cynnal cystadleuaeth gyntaf Ci y Flwyddyn y Senedd, a gynhelir ym Mharc Britannia yng Nghaerdydd yn ddiweddarach y mis hwn.
Mae Ci y Flwyddyn y Senedd, a drefnir gan y Kennel Club a’r Dogs Trust, ar agor i bob Aelod o'r Senedd, waeth beth fo'u brîd neu blaid ‘b-ow-leidyddol’, a'i nod yw hybu cŵn fel aelodau pwysig o'r teulu.
Mae'r gystadleuaeth yn dathlu'r cwlwm unigryw rhwng cŵn a'u perchnogion, a'i nod yw hyrwyddo bod yn berchnogion cŵn cyfrifol.
Wrth apelio ar bobl i bleidleisio dros ei filgi bach Blue, dywedodd Darren:
“Mae Blue yn gariadus iawn, yn annwyl ac yn ddigywilydd!
“Mae'n gi wedi’i achub a daeth i fyw gyda ni pan oedd yn 9 mis oed.
“Yn ei ddyddiau iau ef oedd yr anifail cyflymaf yn y parciau lleol ac roedd wrth ei fodd yn gwibio ar hyd y traeth tywodlyd ym Mae Cinmel.
“Yn anffodus, bu'n rhaid iddo gael llawdriniaeth ar ei ben-glin yn dilyn problem ligament yn ystod pandemig Covid a chafodd strôc ym mis Chwefror y llynedd. Daeth dros y ddau beth yn dda ond mae’n llawer arafach nag y bu erbyn hyn. Mae mor gariadus ag erioed ond mae'n treulio'r rhan fwyaf o'i amser yn cysgu, heblaw am fynd am dro bach fer, neu fusnesu o gwmpas yr ardd am dipyn.
“Mae Blue yn chwa o awyr iach ar ddiwedd diwrnod hir a phrysur. Mae’n cynhyrfu bob amser pan fydd unrhyw aelod o'r teulu yn cyrraedd adref, gan ein croesawu gyda chynffon yn siglo a'n harwain i'r man lle rydyn ni'n cadw ei ddanteithion a'i fisgedi!
“Cafodd Blue ddechrau anodd i’w fywyd ond mae wedi rhoi cymaint o gariad i ni dros y blynyddoedd. Byddem wrth ein boddau yn ei weld yn cael ei gydnabod fel hyn ar ran cŵn sydd wedi’u hachub ym mhobman!”
I bleidleisio dros Blue, ewch i wefan cystadleuaeth Ci y Flwyddyn | The Kennel Club