Mae Darren Millar AS, Aelod o’r Senedd Gorllewin Clwyd, wedi cynnal trafodaethau brys gyda Dŵr Cymru y prynhawn yma yn dilyn tarfu ar gyflenwadau dŵr yng Nghonwy a Sir Ddinbych.
Mae dros 40,000 o aelwydydd, ysgolion, busnesau, ysbytai a chartrefi gofal yng Nghonwy a Sir Ddinbych heb ddŵr ar ôl i brif bibell ddŵr fyrstio yng ngwaith trin dŵr Bryn Cowlyd yn Nolgarrog.
Mae gwaith trwsio wedi bod ar waith ar y safle dros nos ond mae’r cwmni wedi cynghori bod y gwaith atgyweirio brys hwn yn anodd ac yn beryglus, ac y gallai gymryd hyd at 48 awr cyn i gyflenwadau dŵr gael eu hadfer yn llawn.
Mae’r cwmni’n dosbarthu dŵr potel i gwsmeriaid bregus yn yr ardaloedd sy’n cael eu heffeithio, a hefyd yn defnyddio tanceri dŵr i fwydo’r rhwydwaith i gynnal cyflenwadau mewn ysbytai lleol.
Dywedodd Darren:
“Rwy’n bryderus iawn yn sgil y tarfu eang ar gyflenwadau dŵr i filoedd o drigolion Conwy a Sir Ddinbych.
“Mae hefyd yn effeithio ar y cyflenwad i ysgolion, cartrefi gofal, ysbytai a busnesau lleol, ac rwy’n arbennig o bryderus am bobl fregus.
“Derbyniais ddiweddariad brys gan Dŵr Cymru y prynhawn yma ac rwyf wedi cael sicrwydd eu bod yn gweithio hyd eithaf eu gallu i adfer cyflenwadau dŵr cyn gynted â phosibl, ond mae’r sefyllfa’n gymhleth ac efallai y bydd yn cymryd peth amser.
“Mae gan y cwmni drefniadau yn eu lle ar gyfer ysbytai a chartrefi gofal, ac mae’n dosbarthu dŵr potel, ond byddwn yn annog pob preswylydd bregus i ymuno â Chofrestr Gwasanaethau Blaenoriaethol Dŵr Cymru drwy wefan y cwmni neu drwy ffonio 0800 052 0145. Bydd hyn yn sicrhau bod cymorth yn eu cyrraedd nhw yn gyntaf.”