Heddiw, mae’r AS dros Orllewin Clwyd, Darren Millar wedi rhybuddio'r Prif Weinidog bod cleifion Canolfan Feddygol West End Bae Colwyn “mewn perygl o niwed” oherwydd y gwasanaeth gwael maen nhw'n ei dderbyn yn y feddygfa, a'i annog i weithredu i fynd i'r afael â'r problemau.
Wrth siarad yng nghyfarfod y Senedd heddiw, dywedodd Darren wrth Vaughan Gething am y cwynion niferus mae'n eu derbyn bob wythnos gan gleifion yn y feddygfa hon, gan gynnwys rhedeg allan o feddyginiaeth hanfodol.
Gan fod y feddygfa’n cael ei rhedeg yn uniongyrchol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sydd dan Fesurau Arbennig ac felly o dan reolaeth uniongyrchol Llywodraeth Lafur Cymru, galwodd Darren ar y Prif Weinidog i weithredu.
Meddai:
“Brif Weinidog, dyw’r gwasanaethau gofal iechyd yng Nghonwy a Sir Ddinbych ddim mewn lle da. Gwyddom fod y bwrdd iechyd yn y Gogledd dan fesurau arbennig.
“Un o'r problemau sydd gen i yn fy etholaeth i yw problem Canolfan Feddygol West End Bae Colwyn. Mae'n feddygfa a reolir, sy'n cael ei rhedeg yn uniongyrchol gan y bwrdd iechyd, ac rwy'n derbyn sawl cwyn am y gwasanaethau o'r feddygfa benodol honno bob wythnos.
“Mae 100 y cant o'r cwynion rwyf wedi’u derbyn am wasanaethau meddygon teulu ers dechrau'r flwyddyn hon wedi ymwneud â'r un feddygfa hon yn fy etholaeth.
“Mae cleifion yn cwyno am fethu â chael apwyntiadau, methu cysylltu ar y ffôn, peidio â chael atebion i e-byst, peidio ffonio yn ôl ar ôl addo gwneud hynny, methu cael brechiadau sydd ar gael mewn meddygfeydd eraill, a methu cael presgripsiynau mewn pryd, a rhedeg allan o'r feddyginiaeth hanfodol sydd ei hangen arnyn nhw.
“Dyw hyn ddim yn ddigon da. Mae'n rhoi cleifion mewn perygl o niwed.
“Mae'r bwrdd iechyd hwn dan fesurau arbennig ac mae'r feddygfa hon yn cael ei rhedeg yn uniongyrchol gan y bwrdd iechyd. Pa gamau ydych chi a Llywodraeth Cymru am eu cymryd, er mwyn datrys y problemau hyn, fel bod fy etholwyr yn cael y gwasanaethau maen nhw’n eu haeddu?”
Yn ei ymateb, dywedodd y Prif Weinidog y byddai'n siarad ag Ysgrifennydd y Cabinet, a gyda'r bwrdd iechyd hefyd, “er mwyn sicrhau bod nodyn uniongyrchol i'r Aelod ar yr hyn sy'n digwydd”.
Wrth siarad wedyn, dywedodd Darren:
“Nid dyma'r tro cyntaf i mi orfod codi ymarfer gwael mewn meddygfeydd yn fy etholaeth gyda Llywodraeth Cymru. Bob tro maen nhw’n addo gwelliannau, ond does dim byd yn newid. Rwy'n gobeithio, er lles yr holl gleifion yng Nghanolfan Feddygol West End Bae Colwyn, fod y tro hwn yn wahanol a bod gwelliannau'n cael eu gwneud yn gyflym.”