Mae’r Aelod o’r Senedd dros Orllewin Clwyd, Darren Millar, wedi annog Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i ailystyried ei benderfyniad i dynnu cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol i blant yn Llysfaen.
Bydd y toriad, a gyhoeddwyd gan y Cyngor yr wythnos diwethaf, yn gadael ugeiniau o ddisgyblion sy'n mynychu Ysgol Bryn Elian yn Hen Golwyn yn gorfod dod o hyd i drefniadau teithio amgen o fis Medi ymlaen.
Wrth sôn am benderfyniad y Cyngor, dywedodd Darren:
"Mae cynlluniau i gael gwared ar gludiant o'r cartref i'r ysgol yn gwbl annerbyniol, a bydd yn her sylweddol i deuluoedd lleol.
"Bydd llawer yn cael trafferth dod o hyd i drefniadau eraill a thalu amdanynt, yn enwedig o ystyried diffyg capasiti gwasanaethau bysiau lleol.
"Dyw'r gwasanaeth rhwng Llysfaen ac Ysgol Bryn Elian ddim yn un syml ac mae yna beryglon cysylltiedig, yn enwedig mewn tywydd garw o ystyried topograffi'r llwybr, a diffyg croesfan i gerddwyr ar Heol Llanelian.
"Er fy mod yn gwerthfawrogi bod yr awdurdod lleol yn gorfod ystyried goblygiadau cyllidebol trefniadau cludiant o'r cartref i'r ysgol, mae'n amlwg nad yw hwn yn benderfyniad cywir.
"Rwyf wedi cyflwyno sylwadau i'r awdurdod lleol i'w hannog i ailystyried eu penderfyniad ar unwaith."