Yn ystod Cwestiynau i’r Prif Weinidog yn Senedd Cymru heddiw, bu Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar AS, yn cwestiynu ymateb Llywodraeth Lafur Cymru i gamfanteisio’n rhywiol ar blant gan gangiau grŵmio yng Nghymru, a galwodd am ymchwiliad ledled Cymru.
Galwodd ar Lywodraeth Llafur Cymru i sicrhau y bydd tramgwyddwyr yn dod o flaen eu gwell, a gofynnodd pa sgyrsiau oedd wedi bod rhwng Gweinidogion a’r heddlu, adrannau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol, a rhanddeiliaid eraill, i sicrhau bod hyn yn digwydd.
O ystyried tystiolaeth glir bod merched yng Nghymru wedi dioddef camfanteisio gan gangiau grŵmio, galwodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ar y Prif Weinidog i gomisiynu ymchwiliad ledled Cymru.
Ar ôl y sesiwn, dywedodd Darren Millar AS, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig:
“Mae’n amlwg nad oes gafael gan Lywodraeth Llafur Cymru ar y sefyllfa, er bod tystiolaeth glir bod camfanteisio rhywiol ar blant gan gangiau wedi digwydd yma yng Nghymru.
“Dim ond ymchwiliad ledled Cymru fydd yn gallu sicrhau bod digon o sylw a ffocws yn cael ei roi i’r mater yma, ac y gall ein plant gael eu hamddiffyn rhag ymddygiad rheibus.”
Ychwanegodd Darren Millar AS:
“Mae pobl yng Nghymru yn haeddu gwybod a oes Rochdale neu Rotherham arall ar garreg ein drws.”