Mewn ychydig fisoedd bydd Llifogydd Tywyn yn nodi eu 35 mlwyddiant, ac mae’r AS dros Orllewin Clwyd, Darren Millar, wedi galw am weithredu i sicrhau bod unrhyw lifogydd pellach yn cael eu hatal yn yr ardal drwy hybu amddiffyniad rhag llifogydd o lan chwith Afon Clwyd.
Wrth ymateb i'r Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, 'Llifogydd - Paratoi ar gyfer y gaeaf' yn y Senedd yr wythnos hon, rhybuddiodd Darren nad yw'r amddiffyniad llifogydd presennol yn yr ardal hon yn ddigonol a'i fod yn peryglu cartrefi a busnesau. Dywedodd hefyd ei fod yn atal cartrefi newydd mawr eu hangen a datblygiadau eraill rhag cael eu hadeiladu.
Meddai:
“Bydd mis Chwefror nesaf yn nodi tri deg pump o flynyddoedd ers llifogydd dinistriol Tywyn, a oeddent wrth gwrs nid yn unig wedi effeithio ar Dywyn, ond hefyd wedi effeithio ar bob man rhwng Pensarn a'r Rhyl.
“Ar y pryd, roeddwn i'n byw yn Nhywyn ym Mae Cinmel, lle rydw i'n dal i fyw nawr, a phrofais y dinistr pan ddigwyddodd y llifogydd hynny. Wrth gwrs, mae newyddion i'w groesawu i drigolion yn Nhywyn a Bae Cinmel gan fod Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, yn cyflawni buddsoddiad sylweddol yn yr amddiffynfeydd llifogydd arfordirol ym Mae Cinmel. Mae'r gwaith newydd ddechrau—gwerth £13 miliwn o waith, ac mae angen i ni sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni cyn gynted â phosibl er mwyn atal llifogydd i dros 2,000 o gartrefi.
“Ond mae yna wendid o hyd yn yr ardal leol, ac mae hynny oherwydd glan chwith Afon Clwyd. Ac yn anffodus, nid yw lefel y diogelwch rhag llifogydd o lan chwith Afon Clwyd, sy'n gyfrifoldeb CNC yn gyfan gwbl, yn ddigonol i'r awdurdod lleol allu codi'r moratoriwm ar ddatblygu cartrefi newydd a datblygiadau eraill yn y gymuned benodol honno.
“Rydym i gyd yn gwybod bod pwysau ar dai, a'r angen am fwy o dai, ac mae digon o le yn ardal Tywyn a Bae Cinmel, ond heb y buddsoddiad hwnnw nid ydym yn mynd i allu gwireddu hynny.”
“Felly, a gaf i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet: pa waith y bydd yn ei wneud gyda CNC i edrych ar y posibiliadau ar gyfer buddsoddi yn lan chwith Afon Clwyd er mwyn i ni allu diogelu cymunedau lleol, oherwydd mae ei angen yn ddirfawr a does dim cynnydd wedi bod ers dros 15 mlynedd bellach?”
Yn ei ymateb, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrth Darren y byddai'n gofyn i'w swyddfa "gysylltu â CNC i ofyn iddyn nhw gysylltu â chi er mwyn i chi gael trafod hynny gyda nhw".
Wrth siarad wedyn, ychwanegodd Darren:
"Mae llifogydd yn dinistrio bywydau, ac mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau nad oes rhaid i drigolion ddioddef yr hyn a wnaeth fy nheulu i, a llawer o rai eraill, yn Nhywyn yn ôl yn 1990."
Beth am wylio cyfraniad Darren Millar yn Senedd Cymru, isod: