Mae’r AS dros Orllewin Clwyd a Gweinidog Gogledd Cymru yr Wrthblaid, Darren Millar, wedi croesawu'r newyddion bod cynlluniau i gwtogi gwyliau haf ysgolion wedi cael eu rhoi o'r neilltu tan ar ôl etholiad nesaf y Senedd, ond mae’n galw bellach am gael gwared arnyn nhw’n gyfan gwbl.
Roedd cynlluniau Llywodraeth Lafur Cymru’n cynnwys ymestyn y gwyliau hanner tymor i bythefnos, gyda gwyliau o bum wythnos yn hytrach na chwe wythnos yn yr haf.
Roedd disgwyl i'r newidiadau ddod i rym ym mis Hydref 2025.
Heddiw, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, y byddai'r cynigion yn cael eu gohirio.
Felly mae Darren, sy’n gwrthwynebu’r newidiadau, wedi croesawu'r newyddion heddiw, fodd bynnag mae bellach yn galw am ddileu'r cynigion yn gyfan gwbl.
Meddai:
“Mae rhieni, athrawon, undebau addysg, a gweithredwyr twristiaeth yn gwrthwynebu’r newidiadau arfaethedig i'r flwyddyn ysgol gan Lywodraeth Lafur Cymru.
“Felly roeddwn i’n hynod falch o glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg na fyddan nhw’n dod i rym nawr fel y bwriadwyd ym mis Hydref 2025.
“Gobeithio y bydd y saib hwn yn caniatáu i Lywodraeth Cymru ystyried yn fanylach yr effaith y byddai'r newidiadau hyn yn ei chael, yn enwedig ar ein diwydiant twristiaeth, a dileu'r cynigion yn llwyr.
“A dweud y gwir, mae yna broblemau llawer mwy dybryd ym myd addysg y dylai Llywodraeth Cymru fod yn canolbwyntio arnyn nhw.”