Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd ac AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar wedi rhybuddio y bydd nifer y plant ar restrau aros am asesiad niwroddatblygiadol yn cynyddu’n sylweddol oni bai bod camau'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r broblem.
Wrth holi Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg mewn cyfarfod o’r Senedd yr wythnos hon, dywedodd Darren mai'r amser aros presennol ar gyfer yr asesiadau hyn yng Ngogledd Cymru yw pum mlynedd.
Gan alw am weithredu i wella'r sefyllfa, dywedodd:
“Un o'r pryderon sydd wedi cael eu codi gyda mi yng ngogledd Cymru yw'r amseroedd aros ar gyfer asesiadau niwroddatblygiadol.
“Fe wyddom o dystiolaeth a roddwyd gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i'r pwyllgor fod dros 20,000 o blant ar restr aros yng Nghymru ar hyn o bryd; mae'r nifer yn debygol o gynyddu i 61,000 os na chymerir camau i fynd i'r afael â'r her hon.
“Yr amser aros presennol yn y gogledd yw pum mlynedd. Pum mlynedd. Mae hynny'n effaith enfawr ar blentyn os nad ydynt yn cael y gefnogaeth tra byddant yn aros i asesiad gael ei gynnal.
“Felly, a gaf i ofyn, nid ydych yn clustnodi'r arian a roddwch i awdurdodau addysg lleol i'w wario ar ysgolion; nid ydych yn clustnodi'r arian sy'n mynd i awdurdodau addysg ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, ond a yw hynny'n rhywbeth y gallech ei ystyried yn y dyfodol, er mwyn sicrhau bod y plant hyn yn elwa ohono?
Wrth ymateb fe gyfaddefodd Ysgrifennydd y Cabinet bod "niferoedd y plant a phobl ifanc ar restrau aros niwroddatblygiadol yn peri cryn bryder i ni ar draws y Llywodraeth".
Ychwanegodd:
“Cyhoeddwyd arian ychwanegol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd i ganolbwyntio ar yr amseroedd aros hynny, ac roedd fy nghyd-Aelod Sarah Murphy hefyd wedi cyhoeddi digwyddiad cynllunio, lle buom yn gweithio gyda gweithrediaeth y GIG cyn y Nadolig i edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud am yr amseroedd aros hynny ar gyfer gwasanaethau niwroddatblygiadol.
“Gan fod y niferoedd mor fawr, credaf fod cydnabyddiaeth na allwn barhau i wneud yr un peth—mae angen ymagwedd wahanol arnom at y sefyllfa honno.
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Darren:
"Rwy'n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod bod angen gwneud pethau'n wahanol. Allwn ni ddim parhau i fethu'r plant a'r bobl ifanc hyn fel hyn."