Cyn Diwrnod Ymwybyddiaeth o Dlodi Tanwydd, mae Mark Isherwood AS Gogledd Cymru a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dlodi Tanwydd ac Effeithlonrwydd Ynni, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu buddsoddiad yn ei Rhaglen Cartrefi Clyd.
Wrth siarad yn natganiad busnes y prynhawn yma, dywedodd Mr Isherwood, bod angen gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi sydd mewn tlodi tanwydd, ar fyrder.
Wrth godi'r mater dan sylw a galw am Ddatganiad Llywodraeth Cymru ar daclo tlodi tanwydd yng Nghymru, dywedodd:
“Fory yw Diwrnod Cenedlaethol Ymwybyddiaeth o Dlodi Tanwydd, ac fel Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dlodi Tanwydd ac Effeithlonrwydd Ynni, rwy’n falch o’i gefnogi. Yng Nghymru, amcangyfrifir bod hyd at 98% o aelwydydd incwm isel yn byw mewn tlodi tanwydd. Gyda phrisiau ynni i barhau'n uchel gydol y gaeaf - ymhell uwchlaw lefelau cyn yr argyfwng - bydd sawl aelwyd yn ei chael hi'n anodd cadw'n gynnes ac yn iach. Mae angen gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi sy'n dlawd o ran tanwydd yng Nghymru ar frys, gyda biliau ynni sy'n isel yn barhaol.
“Yng nghyfarfod ar y cyd y Grŵp Trawsbleidiol ar Dlodi Tanwydd ac Effeithlonrwydd Ynni a'r Grŵp Trawsbleidiol ar Dai yr wythnos diwethaf, roedd y drafodaeth yn cynnwys Rhaglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru. Mae angen cynyddu ei fuddsoddiad yn sylweddol, oherwydd nid yw'n ddigonol ar hyn o bryd i fynd i'r afael â maint yr her yng Nghymru, gyda chyfle i ddefnyddio symiau canlyniadol Cynllun Cartrefi Clyd Llywodraeth y DU i helpu i wneud hyn. Rwy'n galw am Ddatganiad Llywodraeth Cymru ar y mater hwn.”
Wrth ymateb, dywedodd y Trefnydd (Arweinydd y Tŷ ac aelod o Lywodraeth Cymru:
“O ran y rhaglen Cartrefi Clyd, mae'n rhywbeth sy'n mynd i wneud byd o wahaniaeth i fywydau pobl, ac mae hynny’n wir yn barod. Mae'n gynllun a lansiwyd ar 1 Ebrill, ac rydym wedi buddsoddi £30 miliwn yn fwy i leihau nifer yr aelwydydd incwm isel sy'n byw mewn cartrefi oer, llaith.
“Hefyd, credaf ei bod hi'n bwysig cydnabod bod hyn yn cyfrannu at gyflawni Cymru sero-net erbyn 2050, gan alluogi trosglwyddiad cyfiawn. Mae gennym becyn o fesurau i inswleiddio a datgarboneiddio cartrefi, gan arwain at filiau ynni is, er mwyn symud teuluoedd ac aelwydydd allan o dlodi tanwydd.”
Ychwanegodd Mr Isherwood:
“Yn anffodus mae hi wedi methu â thrafod y cyfle i ddefnyddio'r cyllid y bydd Llywodraeth Cymru yn ei dderbyn o ganlyniad i Gynllun Cartrefi Clyd Llywodraeth y DU er mwyn helpu i fynd i'r afael â maint yr her yng Nghymru”.