Mae’r AS dros Orllewin Clwyd, Darren Millar, wedi galw am ddiweddariad brys ar ddiogelwch cefnffyrdd, gan dynnu sylw at y galwadau cyson dros y blynyddoedd am ostwng y terfyn cyflymder a gwella diogelwch y ffordd ar yr A494 drwy Lanferres.
Mae trigolion yn ysu am weld y cyflymder yn gostwng ar y darn hwn o’r ffordd ac wedi rhybuddio mai dim ond mater o amser yw hi cyn bod yna ddamwain ddifrifol neu farwolaeth.
Mae Darren wedi codi'r mater ar sawl achlysur yn y Senedd dros y blynyddoedd, yn fwyaf diweddar ym mis Chwefror eleni pan bwysodd ar y Gweinidog eto i ystyried gostwng y terfyn cyflymder.
Yn y Datganiad Busnes heddiw, yn galw am Ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar oryrru ar y rhwydwaith cefnffyrdd, cododd y mater eto.
Meddai:
“Mae problem yn fy etholaeth i fy hun o ran cefnffordd yr A494 sy'n mynd trwy bentref Llanferres yn sir Ddinbych. Mae trigolion yno wedi bod yn galw am ostwng y terfyn cyflymder a gwella diogelwch y ffordd ers blynyddoedd lawer, ond nid oes unrhyw gynnydd yn digwydd mewn gwirionedd.
“Mae gennym ni sefyllfa lle mae'r cyflymder trwy'r pentref, yn ôl y prawf canradd wythdeg pump, yn 53 mya, ac mae hyn ar adeg pan fo'r cyflymder ar ffyrdd nad ydyn nhw'n gefnffyrdd drwy bentrefi tebyg yn 20 mya. Yn amlwg, mae'r cyflymder hwnnw trwy'r pentref yn anghysondeb. Mae angen ymdrin ag ef.
“Cafodd rhywfaint o waith ei wneud gan yr Asiantaeth Cefnffyrdd, yn edrych ar yr arwyddion traffig a'r marciau ffordd drwy'r pentref, ond er eu bod yn cytuno bod angen gweithredu ar hynny hyd yn oed, nid oes unrhyw beth wedi'i drefnu mewn gwirionedd.
“Felly, a gaf i ofyn am ddiweddariad brys ar ddiogelwch cefnffyrdd, beth sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael ag anghysondebau fel hyn, fel y gall pentrefwyr yn Llanferres ac mewn mannau eraill mewn sefyllfaoedd tebyg deimlo'n ddiogel? Ac yn ogystal â hynny, a gaf i ofyn hefyd am amserlen glir ar gyfer gweithredu mesurau ar ôl i'r asiantau cefnffyrdd gytuno arnyn nhw, sef y sefyllfa sydd ohoni yn y pentref penodol hwn?”
Wrth ymateb, diolchodd y Trefnydd, Jane Hutt AS i Darren Millar am godi'r mater ac am ddwyn y mater i sylw Llywodraeth Cymru yn flaenorol.
Ychwanegodd:
“Rwy'n credu bod Gweinidogion a chyn-Brif Weinidogion wedi ymweld â'r pentref hwn. Mae'n bwysig bod yr asiantaeth cefnffyrdd yn edrych ar hyn.
“Yn amlwg, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth yn ymwybodol iawn o hyn hefyd, a gobeithio y bydd hyn yn cael ei ddatrys. Rwy'n credu bod hon yn broblem ledled Cymru gyfan mae'n debyg, gyda'r adolygiadau hynny sydd wedi cael eu cyflawni gan awdurdodau lleol o ran goryrru. Ond mae hon yn gefnffordd, ac mae angen mynd i'r afael â hyn drwy'r Asiantaeth Cefnffyrdd.”
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, ychwanegodd Darren:
“Er bod ymateb y Trefnydd yn galonogol, mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau gweithredu cyflym ar hyn cyn i rywun gael ei anafu'n ddifrifol neu'n waeth.”