Heddiw, mae’r AS dros Orllewin Clwyd a Gweinidog Gogledd Cymru yr Wrthblaid, Darren Millar, wedi galw am ddatganiad brys gan y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol mewn perthynas â'r adroddiad gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion ar wasanaethau iechyd meddwl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Wrth siarad yn Natganiad Busnes y prynhawn yma yn y Senedd, gofynnodd Darren pam ei bod yn cymryd cyhyd i fynd i'r afael â'r methiannau a nodwyd mewn gwasanaethau iechyd meddwl yn y rhanbarth.
Meddai:
“Roedd yr adroddiad yn destun pryder mawr iawn. Canfu fod llai na hanner yr 84 o argymhellion a gwelliannau allweddol heb eu rhoi ar waith hyd yma.
“Yn sgil hynny, mae cleifion wedi bod yn wynebu niwed ac wedi colli eu bywydau hyd yn oed o ganlyniad i anallu arweinwyr lleol y GIG a Llywodraeth Cymru sydd wedi methu mynd i'r afael â'r problemau yn y bwrdd iechyd cythryblus hwnnw.
“Roedd hi'n 2013 pan ddarllenon ni'r adroddiad gwarthus am y tro cyntaf i'r sefyllfa yn Nhawel Fan. Rydyn ni wedi darllen adroddiadau am y gwasanaethau gwael iawn sy'n cael eu darparu gan uned Hergest, ac rydyn ni wedi cael sawl adroddiad ers hynny yn dweud bod angen gwella pethau o hyd.
“Pam ar y ddaear mae'n cymryd cyn hired i'r bwrdd iechyd hwn, sydd dan fesurau arbennig, i fynd i'r afael â'r materion hyn, a beth ar y ddaear mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud i ddatrys y pethau hyn? Mae pobl yn haeddu gwybod, a dyna pam rwy'n credu bod angen datganiad brys arnom ni.”
Yn ei hymateb, dywedodd y Trefnydd, Jane Hutt AS:
“Mae'r adroddiad hwnnw wedi'i gwblhau ac fe gafodd ei gyflwyno i'r bwrdd iechyd yn ei gyfarfod ar 30 Mai. Felly, mae yno o'u blaenau o ran adolygiad y bwrdd iechyd o'r argymhellion hynny a'u rhoi ar waith.”
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Darren:
“Mae'r ffaith nad yw argymhellion wedi cael eu rhoi ar waith er bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr dan fesurau arbennig am gyfnod mor hir yn warthus. Mae cleifion a'u teuluoedd yn haeddu cymaint mwy!”