Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd ac AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, yn poeni bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn hysbysebu swydd rheolwr amrywiaeth â chyflog o £45,000 y flwyddyn, ar yr un pryd â thorri gwasanaethau hanfodol.
Gyda'r cyngor yn bwriadu cau hanner y toiledau cyhoeddus yn y sir, a thorri gwasanaethau llyfrgell, cafodd Darren sioc felly o glywed eu bod yn bwriadu gwario £45,000 y flwyddyn ar reolwr amrywiaeth.
Meddai:
"Mae'n annerbyniol bod gwariant yn cael ei flaenoriaethu ar swyddi o'r fath pan fo toiledau cyhoeddus yn cael eu cau a llyfrgelloedd yn wynebu toriadau."
Dywedodd Janet Finch-Saunders, AS Aberconwy y Ceidwadwyr, fod y cyflog yn "wastraff brawychus o arian".
Ychwanegodd:
"Mae codi sbwriel, gwagio'r biniau, delio â thyllau yn ein ffyrdd a chynyddu gwariant gwasanaethau cymdeithasol yn llawer pwysicach na'r swydd hurt hon."