Wrth sôn am ffiniau etholaethol newydd y Senedd cyn etholiad 2026 ar gyfer y Senedd estynedig, dywedodd Darren Millar AS, Gweinidog yr Wrthblaid dros y Cyfansoddiad a Gogledd Cymru:
"Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi gwrthwynebu cynigion ehangu Llafur a Phlaid Cymru yn gyson. Dyma'r flaenoriaeth anghywir a bydd mwy o newid ffiniau yn achosi tarfu a dryswch pellach i'r rhai sydd eisoes wedi gorfod ymdopi â newidiadau i ffiniau yn etholiadau'r cyngor a San Steffan.
"Mae angen Llywodraeth Cymru sy'n canolbwyntio ar fynd i'r afael â phroblemau yn ein GIG, yn ein system addysg ac yn ein heconomi, nid un sydd ag obsesiwn am fwy o wleidyddion a newid cyfansoddiadol."