Mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, sydd wedi bod yn ymgyrchu gyda phobl anabl ac eraill ledled Sir y Fflint i gael gwared ar rwystrau ar hyd Llwybr Arfordir Cymru ers dros 9 mlynedd, wedi croesawu'r newyddion fod Cyngor Sir y Fflint wedi cytuno i gael gwared arnyn nhw, ond dywedodd y bydd y Grŵp Ymgyrchu yn parhau i frwydro tan y bydd y rhwystr olaf wedi’i ddymchwel.
Cyhoeddodd Cyngor Sir y Fflint ddatganiad i'r wasg yr wythnos diwethaf yn cyhoeddi y bydden nhw’n cael gwared ar y rhwystrau yn raddol, ac mewn cyfarfod gyda'r Grŵp Ymgyrchu yr wythnos hon, pan ymunodd Mr Isherwood ar-lein o Gaerdydd, cydnabu Arweinydd Cyngor Sir y Fflint fod pryderon dilys dros y defnydd o'r rhwystrau, a dywedodd y bydden nhw’n cael eu dymchwel dros gyfnod a drefnwyd, gyda'r cyntaf yn cael ei ddymchwel cyn y Nadolig.
Wrth groesawu'r cam ymlaen, dywedodd Mr Isherwood:
"Ar ôl bod yn rhan weithgar o'r ymgyrch hon o'r dechrau, rydw i wrth fy modd bod Cyngor Sir y Fflint wedi gweld synnwyr o'r diwedd ac wedi cytuno i gael gwared ar y rhwystrau hyn gan greu mynediad i bawb.
"Fodd bynnag, o ystyried y bydd y gwaith yn cael ei wneud fesul cam, byddwn yn parhau i roi pwysau ar yr awdurdod lleol tan y bydd y rhwystr olaf un wedi’i ddymchwel.
"Rydyn ni wedi cael gwybod mai Saltney Ferry fydd yr ardal gyntaf lle bydd y rhwystrau'n cael eu tynnu cyn y Nadolig, gyda'r rhwystrau'n cael eu symud yng Nghei Connah ar ddechrau'r flwyddyn newydd a'r rhai ymhellach i fyny'r arfordir yn cael eu tynnu ar ôl mis Ebrill.
"Mae Llwybr Arfordir Sir y Fflint yn lle hyfryd i ymweld ag ef, gyda’i dirweddau amrywiol a godidog, ac fe wnaeth y grŵp ymgyrchu dynnu sylw at y cyfleoedd i ddathlu a chynyddu'r defnydd o'r arfordir.
"Efallai ei fod wedi cymryd naw mlynedd, ond mae'n dangos beth all cymunedau ei gyflawni wrth ddod at ei gilydd. Diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r ymgyrch hon, ac edrychaf ymlaen at weld y llwybr hwn yn gwbl hygyrch yn y dyfodol."