Mae’r AS dros Orllewin Clwyd, Darren Millar, wedi croesawu'r newyddion y bydd gwasanaeth bws sy'n gwasanaethu ei etholwyr yn Llandegla, Sir Ddinbych, gafodd ei ddileu yn gynharach eleni, yn cael ei adfer yn barhaol.
Roedd trigolion yn ddig pan gyhoeddodd Arriva na fydden nhw’n gwasanaethu pentref Llandegla mwyach ar ôl adolygu ei amserlen a'i ddarpariaeth gwasanaeth yn y Gogledd oherwydd y cyfyngiadau cyflymder newydd a gyflwynwyd gan Lywodraeth Lafur Cymru.
Cododd Darren, ynghyd â'r Cynghorydd lleol Terry Mendies, y mater gyda'r cyn-Brif Weinidog yn ystod ei ymweliad â Sir Ddinbych wledig.
Yn siambr y Senedd, galwodd Darren hefyd ar Ddirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru sydd â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth i wneud datganiad ar “y camau mae'n eu cymryd i fynd i'r afael ag effaith andwyol gostwng y terfyn cyflymder cyffredinol mewn ardaloedd adeiledig o 30mya i 20mya ar wasanaethau bysiau”.
Roedd yn falch felly pan gyhoeddodd Cyngor Sir Ddinbych ei fod wedi cael cymeradwyaeth gan holl awdurdodau’r Gogledd i ddefnyddio cyfran o Gyllid Pontio Bysiau eleni i gynorthwyo gyda'r newid a wnaed i'r gwasanaeth hwn.
Cytunodd Arriva y gallen nhw weithredu taith gyntaf ac olaf yr X51 i ac o Landegla, a darparodd Cyngor Sir Ddinbych fws mini dros dro i gynnal yr amserlen rhwng y teithiau hynny tan 29 Mehefin.
Mae Darren wedi derbyn cadarnhad erbyn hyn y bydd gwasanaeth Llandegla’n cael ei adfer o ddydd Llun 1 Gorffennaf 2024 ymlaen fel rhan o wasanaeth bws X51, gyda'r bws yn dod i'r pentref fel yr oedd cynt.
Wrth groesawu'r gwasanaeth yn ôl yn barhaol, dywedodd Darren;
“Pan dorrwyd y gwasanaeth hwn ddechrau'r flwyddyn o ganlyniad i gyfyngiad cyflymder cyffredinol 20mya Llywodraeth Cymru, roedd trigolion yn bryderus iawn wrth reswm.
“Mae'r gwasanaeth bws hwn yn achubiaeth i lawer a hebddo bydden nhw ar goll.
“Roeddwn i’n falch pan gytunodd Cyngor Sir Ddinbych i ddarparu'r gwasanaeth gyda gwasanaeth bws mini, ond rwy'n credu bod defnyddwyr yn poeni erioed am golli'r gwasanaeth yn y tymor hir.
“Roeddwn i'n falch iawn felly o dderbyn cadarnhad y bydd y gwasanaeth yn ôl ar amserlen Arriva o ddechrau'r mis nesaf.
“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r gwaith o wneud i hyn ddigwydd. Bydd yn newyddion da iawn i'r trigolion.”