Gyda phobl yn y Gogledd yn talu llawer mwy am docynnau trên na theithwyr yn y De, mae’r AS dros Orllewin Clwyd a Gweinidog Gogledd Cymru'r Wrthblaid, Darren Millar, yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i weithredu i fynd i'r afael â'r anghysondeb.
Mae Darren yn poeni fod teithiau yn y Gogledd a weithredir gan Trafnidiaeth Cymru sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru yn costio mwy na dwbl cost teithiau o’r un hyd yn y De mewn rhai achosion.
Heriodd Weinidog y Cabinet dros Ogledd Cymru, Ken Skates AS, yn y Senedd ynghylch yr anghysondeb a'r annhegwch enfawr i bobl yn y Gogledd.
Mewn cwestiwn ynghylch diffyg buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn y Gogledd, dywedodd Darren:
“Gadewch inni sôn am fater arall lle mae gwahaniaeth ac annhegwch enfawr i bobl y gogledd. Gadewch inni ystyried Trafnidiaeth Cymru, er enghraifft. Prisiau tocynnau ar Trafnidiaeth Cymru: rhwng Abertawe a Chaerdydd, gallwch dalu £5.50 am docyn unffordd; mae taith debyg yn y gogledd rhwng Cyffordd Llandudno a Chaer yn costio £13.10. Mae'n wahaniaeth enfawr, sylweddol, sy'n annheg iawn.”
“Pam y dylai pobl yn y gogledd dalu dwywaith cymaint am eu tocynnau trên, a pheidio â chael y buddsoddiad yn y metro a addawyd gennych ddau faniffesto yn ôl, a pham y dylent oddef y setliadau annheg a gânt o ran buddsoddiad cyfalaf gan Lywodraeth Cymru?”
Yn ei ymateb, methodd Ysgrifennydd y Cabinet â darparu esboniad am y gwahaniaeth o ran prisiau tocynnau.
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Darren:
“Doedd atebion Ysgrifennydd y Cabinet ddim yn ddigon da.
“Methodd ag amlinellu'r hyn y mae'n ei wneud i fynd i'r afael â'r problemau hyn a pha gamau penodol y bydd yn eu cymryd nawr i ymdrin â'r anghysondeb hwn gan Trafnidiaeth Cymru.
“Mae'n hynod annheg fod teithwyr rheilffordd yn y Gogledd yn dioddef canlyniadau'r gost annheg hon yn y rhanbarth.
“Mae Metro De Cymru wedi derbyn dros £1 biliwn gan Lywodraeth Cymru, ac mae yna gyfres o brosiectau seilwaith mawr ar y gweill mewn mannau eraill yn y De. Yn y Gogledd, dim ond £50 miliwn sydd wedi’i ddyrannu i'r prosiect metro. Hyd yn oed wrth ystyried y gwahaniaeth mewn poblogaeth, mae’r De yn dal i gael mwy na phum gwaith y buddsoddiad y pen na’r Gogledd.
“Yn y cyfamser maen nhw'n adeiladu ysbytai newydd yn y De, ond er iddyn nhw ofyn dro ar ôl tro iddyn nhw gyflawni eu haddewid o ysbyty i wasanaethu pobl Gogledd Sir Ddinbych yn Ysbyty Brenhinol Alexander yn y Rhyl, 13 mlynedd yn ddiweddarach dydyn ni ddim wedi gweld y gwaith yn dechrau hyd yma.
“Bu diffyg buddsoddiad difrifol yn ein seilwaith ffyrdd y Gogledd hefyd.
“Ers blynyddoedd rydyn ni wedi’n gadael i lawr ac mae pobl yn y Gogledd wedi cael digon o weld yr holl arian yn cael ei wario yn y De.
“Mae'n hen bryd i Lywodraeth Cymru ddechrau gwrando ar bobl y Gogledd a chymryd camau i fynd i'r afael â'r annhegwch difrifol hwn.”