Mae disgybl o Ysgol Betws yn Rhos wedi cipio'r brif wobr yng nghystadleuaeth flynyddol cerdyn Nadolig Darren Millar AS Gorllewin Clwyd.
Bob blwyddyn, mae Darren yn gwahodd disgyblion ysgol ei etholaeth i ddylunio cerdyn Nadolig, i'w anfon ar hyd a lled yr ardal wedyn. Y thema eleni oedd 'Fy Hoff Ffilm Nadolig' a daeth cannoedd o geisiadau i law.
Yr enillydd oedd Daniel Hatfield, disgybl blwyddyn 6 yn yr ysgol, am ei gerdyn yn cynnwys Kermit the Frog a Tiny Tim o'r clasur Nadoligaidd ‘The Muppet Christmas Carol’.
Ddydd Llun, aeth Darren draw i Ysgol Betws yn Rhos i longyfarch Daniel ar ei lwyddiant a chyflwyno ei wobr iddo, a oedd yn cynnwys tocyn teulu i Sw Mynydd Cymru.
Meddai Darren:
“Roedd hi’n braf gweld yr amrywiaeth wych o geisiadau ar gyfer y gystadleuaeth eleni, ac fel erioed, roedd hi'n anodd dewis y buddugol.
“Roedd tîm fy swyddfa a minnau wedi mopio ar gynnig Daniel. Mae'n syml, ond wedi'i ddarlunio'n wych, yn adnabyddadwy'n syth bin, ac yn amlwg Nadoligaidd! Rwy'n falch iawn o gael ei gynllun ar y cardiau Nadolig y byddaf eu hanfon eleni.
“Roedd hi'n wych cwrdd â Daniel wyneb yn wyneb yn Ysgol Betws yn Rhos ddydd Llun, i'w longyfarch ar ei grefft a chyflwyno'r wobr iddo. Diolch i Daniel, y pennaeth Siân Wellsbury, a'r holl staff a disgyblion am y fath groeso!”