Mae’r AS dros Orllewin Clwyd, Darren Millar, yn mynnu cael cyfarfod brys gyda'r Post Brenhinol yn dilyn cwynion am oedi cyn dosbarthu post, neu ddosbarthu post ddwywaith yr wythnos yn unig, a honiadau gan chwythwyr chwiban mewn swyddfeydd didoli yn y Rhyl a Bae Colwyn bod parseli’n cael blaenoriaeth dros lythyrau.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae Darren wedi derbyn cwynion cynyddol gan etholwyr am nad yw eu post yn cyrraedd ar amser.
Mae pobl yn honni mai dim ond dwywaith yr wythnos maen nhw’n derbyn eu post yn hytrach na bob dydd.
Nawr mae honiadau wedi eu gwneud gan chwythwyr chwiban yn swyddfeydd didoli Bae Colwyn a'r Rhyl bod parseli’n cael blaenoriaeth dros lythyrau, gyda rheolwyr yn dweud wrth staff am oedi dosbarthu llythyrau’n fwriadol, weithiau am hyd at bum niwrnod ar y tro.
Wrth ymateb, dywedodd Darren:
“Yn yr wythnosau diwethaf rwyf wedi bod yn derbyn nifer cynyddol o gwynion ynghylch oedi cyn dosbarthu llythyrau yn Sir Ddinbych a Chonwy. Cysylltais â'r Post Brenhinol a wnaeth geisio fy sicrhau bod problemau achlysurol oherwydd absenoldeb staff.
“Fodd bynnag, ers hynny, mae pedwar chwythwr chwiban o swyddfeydd didoli’r Rhyl a Bae Colwyn wedi cysylltu â mi'n annibynnol yn honni bod rheolwyr y Post Brenhinol yn gofyn yn fwriadol i weithwyr post flaenoriaethu dosbarthu parseli dros lythyrau, gan arwain at lythyrau'n cronni mewn swyddfeydd didoli ac yn cael eu dosbarthu mewn sypiau yn hytrach nag yn ddyddiol. Mae hyn yn gwbl annerbyniol ond yn debygol o fod yn wir o ystyried y sgyrsiau rydw i wedi bod yn eu cael gydag etholwyr yn ystod yr wythnosau diwethaf.
“O ystyried rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol y Post Brenhinol a'r cynnydd mwy na chwyddiant yng nghostau post gyda stamp ac wedi’i ffrancio, mae ymddygiad o'r fath yn annerbyniol ac mae’r hyn rydw i wedi’i glywed yn peri gofid mawr i mi.
“Rwyf felly wedi ysgrifennu at y Post Brenhinol i ofyn am eglurhad a mynnu cyfarfod brys i drafod y sefyllfa.
“Mae angen i drigolion a busnesau yng Nghonwy a Sir Ddinbych fod yn derbyn eu post ar amser.”