Mae Darren Millar, Gweinidog yr Wrthblaid dros Ogledd Cymru ac AS Gorllewin Clwyd, wedi cymeradwyo cwmni peirianneg sifil o Ruthun am y cyfleoedd newydd y mae'n eu darparu i bobl ifanc yn yr ardal.
Mae Jones Bros Civil Engineering UK wedi lansio cynllun hyfforddi gweithredwyr mewn ymateb i benderfyniad Llywodraeth Cymru i roi'r gorau i ariannu'r brentisiaeth lefel dau a phontio i fframwaith lefel tri.
Mae'r cynllun hyfforddi gweithredwyr newydd, a grëwyd i barhau i ddarparu llwybr i beirianneg sifil i bobl ifanc, yn gontract 15 mis sy'n dechrau gyda hyfforddiant ar iechyd, diogelwch a’r amgylchedd.
Dilynir hyn gan hyfforddiant safonol y Cynllun Cymhwysedd Peiriannau Adeiladu (CPCS) ar beiriannau, gan gynnwys tryciau dympio ymlaen, rholeri hunanyriant, tractorau, llwythwyr telesgopig, a thryciau dympio cymalog.
Ar ôl ei gwblhau, bydd y gweithiwr yn derbyn cerdyn coch CPCS yn y categorïau y mae wedi cael hyfforddiant a sefyll prawf ynddyn nhw cyn paratoi cymhwysedd pellach cyn mynd allan ar safleoedd.
Meddai Darren, sydd wedi ymweld â Jones Bros sawl gwaith dros y blynyddoedd ac a fu’n trafod y cynllun hyfforddi newydd gyda phenaethiaid y cwmni ar ei ymweliad diwethaf y llynedd:
“Jones Bros yw un o gwmnïau peirianneg sifil mwyaf y DU ac rydw i bob amser wedi bod yn hynod falch eu bod wedi'u lleoli yma yn fy etholaeth.
“Y llynedd, ymwelais â Gweinidog yr Economi yr Wrthblaid, Paul Davies AS, a Gweinidog y Gymraeg a Materion Gwledig yr Wrthblaid, Samuel Kurtz AS, a chlywsom am eu cynlluniau ar gyfer y cynllun hyfforddi newydd hwn. Felly, rydw i wrth fy modd ei fod wedi dwyn ffrwyth a bod cymaint o bobl ifanc yn elwa ar y cyfleoedd y mae'n eu darparu.
“Mae’r cwmni’n ased heb ei ail i’r Gogledd ac rwy’n edrych ymlaen at gyfarfod rhai o’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y cynllun hyfforddi newydd ar fy ymweliad nesaf.”
Meddai Tony, Pennaeth Systemau a Chymorth Rheoli Busnes Jones Bros:
“Rydyn ni wedi gorfod newid i gynllun hyfforddi gweithredwyr o'r hen brentisiaethau lefel dau, sydd wedi golygu llawer o waith caled yn fewnol.
“Er nad yw’n brentisiaeth lefel dau draddodiadol, rydyn ni’n falch o ddweud bod ein cynnig wedi cael croeso cynnes a bod yr ymgeiswyr wedi bod o safon uchel fel erioed.”