Mae’r AS dros Orllewin Clwyd a Gweinidog Gogledd Cymru'r Wrthblaid, Darren Millar, unwaith eto wedi tynnu sylw at yr effaith ddinistriol y byddai treth twristiaeth arfaethedig Llywodraeth Cymru yn ei chael ar y diwydiant twristiaeth yn y rhanbarth.
Wrth ymyrryd yn nadl y Ceidwadwyr Cymreig ddoe ar dwristiaeth, dywedodd Darren y bydd cyflwyno tâl i ymwelwyr aros dros nos yng Nghymru ond yn gorfodi pobl i fynd ar wyliau mewn ardaloedd lle nad oes treth dwristiaeth.
Meddai:
“Rwy'n credu mai'r broblem fawr a'r her fawr sydd gennym yw ein bod yn gwybod mai'r math mwyaf proffidiol o dwristiaeth yw'r twristiaid sy'n aros dros nos ac maent yn gwario mwy yn ein heconomi.
“Yr hyn rydych chi'n ceisio ei wneud yw trethu'r twristiaid sydd am ddod i aros dros nos, ac a fydd yn gwario mwy; bydd hyn yn rhoi llai o arian iddynt ei wario yn ein heconomi.
“Rydych chi’n methu cydnabod hefyd bod rhannau helaeth o Gymru’n cystadlu â rhannau eraill o'r DU sydd heb ardoll dwristiaeth na threth dwristiaeth, felly mae gan lawer o bobl sy'n dod ar wyliau i ogledd Cymru ddewis a ydynt am ddod i Eryri, a ydynt am ddod i rannau o ogledd Cymru neu fynd draw i Ardal y Llynnoedd.
“Os oes problem o ran sensitifrwydd prisiau - ac mae yna i lawer o deuluoedd; fe wyddom hynny yn sgil yr heriau costau byw – yna bydd pobl yn mynd i rywle arall. Bydd hynny'n ddrwg i'r economi, yn ddrwg i swyddi ac yn ddrwg i deuluoedd yng Nghymru. Onid ydych chi'n derbyn hynny?
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, ychwanegodd;
“Twristiaeth yw bara menyn ein heconomi leol yn y Gogledd a gallai treth twristiaeth ddinistrio cymunedau a gwneud ymdrechion adfywio ym Mae Colwyn, y Rhyl a Llandudno hyd yn oed yn anoddach. Gallai gael effaith andwyol ar barciau carafanau, gwestai a busnesau eraill sy'n dibynnu ar ymwelwyr i gael dau ben llinyn ynghyd.
“Mae cymaint o waith caled wedi’i wneud i geisio adfywio ein trefi ar hyd arfordir y Gogledd a gallai'r dreth hon ar dwristiaid beryglu hynny.
“Fe ddylen ni fod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddenu twristiaid i'r rhan brydferth hon o'r wlad, nid eu cymell i beidio ymweld drwy wneud gwyliau teuluol yn ddrutach.”