Mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi cwestiynu Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth ynghylch buddsoddi mewn gwasanaethau bysiau yng Nghymru gan bwysleisio'r manteision economaidd niferus y gall eu cynnig.
Wrth siarad yng nghyfarfod y Senedd ddoe, gofynnodd Mr Isherwood i Ysgrifennydd y Cabinet, Ken Skates AS, sut mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn gwasanaethau bysiau.
Gofynnodd hefyd sut mae'n bwriadu cefnogi'r diwydiant i lywio'r heriau cyllido ychwanegol a grëwyd gan y gost ychwanegol i’r Yswiriant Gwladol, yn dilyn Cyllideb Llywodraeth y DU.
Dywedodd:
“Wrth ymateb i fy nghyd-Aelod, Gweinidog Trafnidiaeth yr Wrthblaid Natasha Asghar, ar fater gwasanaethau bysiau ddoe, dywedodd y Prif Weinidog fod yn rhaid i'r Gweinidog Cyllid weithredu'n unol â'i blaenoriaethau, a bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol i gynllunio a gweithredu rhwydweithiau bysiau.”
“Cyfeiriwyd eisoes at ymchwil annibynnol gan y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr, a ganfu y byddai pob £1 o fuddsoddiad ychwanegol a gwella gwasanaethau bysiau yn cynhyrchu £4.55 o fudd economaidd pellach.”
“O ystyried cost uchel masnachfreinio bysiau fel y gwelwyd ym Manceinion, a oedd yn cynnwys ardoll treth gyngor, sut y bwriadwch chi wneud y mwyaf o'r buddion hyn felly, pa waith penodol rydych chi'n ei wneud gydag awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru ac mewn mannau eraill i nodi cyfleoedd ar gyfer cynlluniau blaenoriaeth i fysiau a darparu buddsoddiad cyfalaf i'w cyflawni, a sut y bwriadwch chi gefnogi'r diwydiant i lywio'r heriau cyllido ychwanegol a grëir gan gost ychwanegol yswiriant gwladol, yn dilyn cyllideb Llywodraeth y DU, yr amcangyfrifwyd y bydd yn £800 i £1,000 am bob gweithiwr?”
Yn ei ymateb, cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet at y Bil Bysiau, a dywedodd ei fod yn "darparu cyfrwng i ni allu sicrhau bod gennym system drafnidiaeth gyhoeddus integredig genedlaethol sy'n ymateb i anghenion pobl."
Ychwanegodd:
“Byddwn yn gweithio gyda'r sector, nid yn unig yn ystod y broses o fasnachfreinio, ond rhwng nawr a'r pwynt pan fydd masnachfreinio'n dechrau, i gynnwys cymaint o arloesedd, syniadau a chreadigrwydd i ddatrys problemau heddiw, ond hefyd i groesawu cyfleoedd yfory.”