Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd ac AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, wedi beirniadu ymateb Dŵr Cymru i’r prif gyflenwad dŵr yn byrstio'r wythnos diwethaf yng Nghonwy a Sir Ddinbych ac wedi beirniadu Prif Weithredwr y cwmni am beidio ag ymweld â'r cymunedau yr effeithiwyd arnyn nhw.
Wrth ymateb i'r Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Ymyrraeth dŵr yng Nghonwy, galwodd Darren yr ymateb brys i'r argyfwng yn "annigonol" a chondemniodd Brif Weithredwr Dŵr Cymru am beidio â mynd allan "i ymweld â'r gymuned o gwbl gydol yr ymarfer hwn".
Wrth ddisgrifio'r "anhrefn" a ddaeth yn sgil y byrstio, dywedodd Darren:
"Rydyn ni'n cymryd cyflenwadau dŵr glân yn ganiataol a dim ond pan fyddwn ni'n eu colli y byddwn ni'n gwerthfawrogi'r hyn rydyn ni wedi'i golli.
"Roedd yna anhrefn yng Nghonwy a diffyg cyfathrebu clir gan Dŵr Cymru i gwsmeriaid a chynrychiolwyr etholedig. Roedd y cynllunio ar gyfer argyfwng yn wael, ac roedd mynediad preswylwyr bregus a chartrefi gofal at ddŵr potel yn annigonol, ac roedd yn warth na ddaeth y Prif Weithredwr cyflogedig yn bersonol i weld y sefyllfa ar lawr gwlad.
"Roedd gennym ni drigolion a oedd yn gaeth i’w tai, na fu modd iddyn nhw gael gafael ar ddŵr am dri diwrnod. Roedd gen i un etholwr, fe ffoniodd hi dair gwaith ers colli'r cyflenwad ddydd Mercher - roedd hi’n 2 o'r gloch y bore, ar fore Sadwrn, pan gafodd gnoc ar y drws gyda photeli yn cyrraedd. Yn amlwg, dydy hynny ddim yn ddigon da."
Ychwanegodd:
"Roedd yna gartrefi gofal na chawson nhw gyflenwad o ddŵr potel yn ddigon cyflym hyd yn oed, heb sôn am gael eu rhoi yn ôl ar y prif gyflenwad. Ac roedd 100,000 o bobl – efallai tua 40,000 o gwsmeriaid - ond 100,000 o bobl, yn y pen draw, wedi’u heffeithio gan y problemau hyn."
Diolchodd Darren i'r ymatebwyr brys a'r timau a weithiodd yn galed i drwsio pethau, ond ychwanegodd "nad oedd y ffordd y cychwynnodd yr ymateb brys yn ddigonol".
Mynegodd bryder hefyd nad oedd safleoedd Park Home ac ysgolion yn cael eu hystyried yn flaenoriaeth, a galwodd ar Ysgrifennydd y Cabinet i fynd i'r afael â hyn ar gyfer y dyfodol.