Mae’r AS dros Orllewin Clwyd, Darren Millar, wedi siarad yn y Senedd heddiw am gyflwyniad di-drefn gwasanaeth ailgylchu aelwydydd newydd yn Sir Ddinbych ac wedi pwyso ar Lywodraeth Lafur Cymru i hyrwyddo systemau ailgylchu cartrefi symlach wrth symud ymlaen – fel hen system Sir Ddinbych.
Cododd Darren y mater yng nghyfarfod y Senedd heddiw ar ôl derbyn adroddiadau am gasgliadau ddim yn cael eu gwneud a sbwriel wedi'i wasgaru ar hyd a lled y strydoedd yn dilyn cyflwyno'r gwasanaeth ar 3 Mehefin.
Wrth ymateb, dywedodd y Trefnydd, Jane Hutt AS, ei bod yn croesawu cyflwyno'r system newydd.
Gan alw am Ddatganiad ar ailgylchu aelwydydd, dywedodd Darren:
“Rwy'n falch iawn, yn sgil gwaith caled trigolion ledled Cymru, fod gan Gymru un o'r cyfraddau ailgylchu gorau yn y byd. Mae hynny'n newyddion gwych, ond mae angen i ni sicrhau hefyd bod ailgylchu’n hawdd i bobl a bod systemau lleol yn gweithio.
“Mae'r cyngor Sir Ddinbych, a arweinir gan y blaid Lafur, newydd wario miliynau ar gael gwared ar ei wasanaeth casglu biniau olwynion glas poblogaidd, hawdd ei ddefnyddio ac a oedd yn perfformio'n dda iawn, a’i ddisodli gyda system trolibocs amhoblogaidd iawn, sydd wedi bod yn gwneud ailgylchu'n hunllef i drigolion lleol, a chwtogi’r casgliadau gwastraff gweddilliol i un bob pedair wythnos.
“Rhaid i mi ddweud bod cyflwyno’r gwasanaeth wedi bod yn draed moch. Mae casgliadau gwastraff wedi cael eu colli. Mae biniau ar hyd a lled y strydoedd a sbwriel ym mhobman hefyd. Yn syml, dyw ddim yn ddigon da.
“Felly, rwyf yn pwyso ar Lywodraeth Cymru, yn hytrach na hyrwyddo ailgylchu wrth ymyl y ffordd yn unig, i hyrwyddo systemau ailgylchu aelwydydd symlach fel yr hyn a ddefnyddiwyd yn Sir Ddinbych yn flaenorol, i’w gwneud yn ofynnol hefyd i finiau gael eu casglu o leiaf unwaith bob pythefnos er budd iechyd y cyhoedd, ac allwn ni gael datganiad sy'n cadarnhau mai dyma fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud?”
Yn ei hymateb, croesawodd y Trefnydd, Jane Hutt AS, gyflwyno'r gwasanaeth newydd a chadarnhaodd “Newidiodd Sir Ddinbych i wasanaeth sy'n cyd-fynd ag arferion gorau Llywodraeth Cymru sydd i’w weld yn y glasbrint casgliadau”.
Wrth siarad wedyn, ychwanegodd Darren;
“Mae'n achos pryder bod y Trefnydd yn croesawu system sy'n achosi anhrefn a diflastod i drigolion ar draws Sir Ddinbych. Ynghyd â chynghorwyr lleol, rwyf wedi derbyn llawer o gwynion ers cyflwyno'r cynllun ychydig dros wythnos yn ôl.
“Dywedodd y Gweinidog fod y Cyngor wedi bod yn “gweithio gyda'u cyhoedd - y bobl maen nhw'n eu cynrychioli - wrth baratoi ar gyfer y gyfradd ailgylchu isaf honno o 70 y cant a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2024, a hefyd, yn gweithredu ein glasbrint casgliadau”, ond y gwir amdani yw mai dim ond ers ychydig wythnosau’n unig yr oedd llawer o drigolion yn ymwybodol o'r newidiadau hyn cyn iddyn nhw ddod i rym, pan gyhoeddodd y Cyngor ddatganiad i'r wasg.
“Pe bydden nhw wedi ymgynghori â'r cyhoedd, bydden nhw wedi gwybod nad oedd pobl eisiau system newydd, ac o gofio bod gan Sir Ddinbych un o'r cyfraddau ailgylchu gorau yng Nghymru eisoes, nid oedd ei angen un chwaith.
“Roedd yr hen system yn gweithio'n iawn, a gallai cyfraddau ailgylchu fod wedi cael hwb yn hawdd drwy ymarfer addysg syml ynghylch yr hyn y dylid ei ailgylchu. Yn hytrach, mae Cyngor Sir Ddinbych wedi gwario symiau enfawr ar system ailgylchu newydd sbon, arian y byddai wedi bod yn llawer gwell ei wario ar bethau eraill.”