Mae Darren Millar AS, Gweinidog yr Wrthblaid dros y Gogledd, yn galw ar Ysgol Uwchradd y Rhyl i ailystyried ei threfniadau newydd ar amseroedd agor toiledau ar ôl i riant pryderus gysylltu â nhw gan ddweud mai dim ond ar adegau cyfyngedig o'r dydd y maen nhw ar agor.
Mae Darren, sydd ag etholwyr sy'n mynychu'r ysgol, wedi cael gwybod bod caeadau wedi'u gosod ar yr holl doiledau o fewn yr ysgol a'u bod ar glo 90 y cant o'r dydd. Bellach maen nhw ond ar agor ar ddechrau a diwedd y dydd, ac yn ystod amser egwyl.
Mae hyn yn achosi problemau i rai disgyblion, yn enwedig y rhai sydd â chyflyrau meddygol.
Mae Darren felly yn galw ar yr ysgol i adolygu'r polisi newydd.
Meddai:
"Cefais sioc o glywed am y trefniadau newydd hyn yn Ysgol Uwchradd y Rhyl ar ôl i etholwr gysylltu â mi.
"Gall atal disgyblion rhag mynd i'r lle chwech pan fydd angen arwain at broblemau iechyd ac mae'n dangos diffyg ystyriaeth lwyr i anghenion merched a allai fod angen mynediad oherwydd dechrau sydyn eu mislif.
"Mae bron yn sicr yn gwahaniaethu yn erbyn y rhai sydd â chyflyrau iechyd, gan eu trin yn wahanol i ddisgyblion eraill a'u gorfodi i ddatgelu gwybodaeth feddygol y byddai'n well ganddyn nhw ei chadw'n breifat.
"Er fy mod yn gwerthfawrogi y gallai rheoli mynediad i doiledau fod yn fater pwysig o safbwynt mynd i'r afael ag ymddygiad annerbyniol a thriwantiaeth, mae'r dull sy'n ymddangos fel pe bai wedi cael ei fabwysiadu gan Ysgol Uwchradd y Rhyl yn llym ac yn ddiangen ac yn gwbl groes i ganllawiau Llywodraeth Cymru.
"Rwy'n eu hannog i ailystyried y polisi hwn cyn gynted â phosibl."
Dywedodd y tad pryderus, Jamie Wakeman, a gysylltodd â Darren:
"Mae plant yn cael eu gorfodi i aros o leiaf dwy awr a 10 munud i fynd i'r toiled; angen dynol sylfaenol.
"Mae'r ysgol yn mynnu bod gan ddisgybl broblem iechyd cyn y gellir rhoi 'tocyn toiled' iddo, ac rwy'n credu fod hyn yn annerbyniol. Maen nhw’n oedolion ifanc a ddylen ni ddim eu gorfodi i ddelio â phethau fel hyn.
"Rhoddwyd y caeadau hyn ar waith ar ddechrau'r flwyddyn academaidd newydd. Gofynnodd fy llysferch a gai fynd i'r toiled, a phan ddywedwyd ‘na’ wrthi roedd hi mewn dagrau yn y dosbarth.
"Chawson ni ond gwybod hyn pan ddaeth hi adref a dweud wrthon ni. Doeddwn i’n methu credu’r peth; mae'n chwerthinllyd.
"Mae'n debyg ei fod yn atal pobl rhag mynd i mewn i'r toiledau." Does dim angen pas toiled arni, dim ond agor y drysau."