Wrth siarad yn Siambr y Senedd yr wythnos hon, siaradodd yr AS dros Orllewin Clwyd, Darren Millar, am yr argyfwng deintyddol sy'n wynebu’r Gogledd a galwodd am ddatganiad brys gan Lywodraeth Cymru ar y mater.
Cododd Darren y mater drwy gyfeirio at “angst” ei etholwyr sydd ddim yn gallu cael mynediad at wasanaethau deintyddol y GIG a dywedodd bod y sefyllfa'n gwbl “annerbyniol”.
Wrth alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar Iechyd mewn perthynas â gwasanaethau deintyddol y GIG yn y Gogledd, dywedodd;
“Rydym yn gwybod bod deintyddiaeth y GIG yn y wlad yn wynebu argyfwng. Rydym wedi cael cynnydd mawr mewn prisiau i'r bobl hynny sy'n gallu cofrestru gyda deintydd GIG, sy'n llawer uwch na chyfradd chwyddiant. Ond, wrth gwrs, yng Nghonwy a sir Ddinbych yn benodol, mae'n ymddangos ein bod ni wedi cael ecsodus o sector y GIG, gyda phobl yn penderfynu rhoi eu contractau yn ôl. Hyd yn oed yn y GIG, rydym wedi gweld clinig iechyd deintyddol cymunedol Bae Colwyn yn dweud ei fod yn troi cefn ar wasanaethau deintyddol cyffredinol.
“Nawr, yn amlwg, mae hyn yn achosi llawer iawn o bryder i'm hetholwyr, y mae miloedd lawer ohonynt heb gofrestru gyda deintydd y GIG. Fe gysylltodd un etholwr â mi yr wythnos diwethaf i ddweud ei bod wedi cael dyfynbris o £23,000 ar gyfer triniaeth ddeintyddol y GIG yr oedd ei hangen arni nawr, ond na allai gael mynediad ati drwy ddeintydd y GIG.
“Mae gennym ni gleifion orthodonteg, plant ifanc, sy'n disgwyl 222 o wythnosau, yn ôl yr ohebiaeth ddiweddaraf gan y byrddau iechyd - bron i bedair blynedd. Mae'n gwbl annerbyniol.
“Mae angen gweithredu er mwyn datrys hyn. Dydy pobl ddim yn cael y gwasanaeth sydd ei angen arnyn nhw. Mae loteri cod post ar draws y Gogledd ac yng ngweddill y wlad. A gawn ni ddatganiad ar hyn, fel mater o frys, fel y gallwn ni ddwyn y Llywodraeth i gyfrif am ei methiant i ddarparu gwell gofal deintyddol?
Dywedodd y Trefnydd, Jane Hutt, y byddai'n gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol roi diweddariad penodol i Darren o ran y gwasanaethau sydd ar gael yn y Gogledd.
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Darren:
“Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud dro ar ôl tro nad oes ganddyn nhw'r arian i'w fuddsoddi yn neintyddiaeth y GIG, ond y gwir amdani yw bod Cymru, am bob £1 sy'n cael ei gwario ar wasanaeth deintyddol y GIG yn Lloegr, yn cael £1.20 i'w wario yma.
“Dyw eu hesgusodion pitw ddim yn dal dŵr gyda fy etholwyr sydd ddim yn gallu cael mynediad at ddeintydd.”