Mae canser y gwaed yn fath o ganser sy'n effeithio ar eich celloedd gwaed. Mae dros 40,000 o bobl yn cael diagnosis o ganser y gwaed bob blwyddyn yn y DU, ac mae dros 250,000 o bobl yn byw gyda chanser y gwaed neu mewn cyfnod o ryddhad oddi wrtho ar hyn o bryd. Bob blwyddyn, mae dros 15,000 o bobl yn marw o ganser y gwaed.
Mae dros 100 o wahanol fathau o ganser y gwaed, gan gynnwys: lewcemia; lymffoma; myeloma; Syndromau myelodysplastig (MDS) a neoplasmau myeloproliferative (MPN). Mae gan bob un ohonyn nhw symptomau, triniaethau a phrognosis gwahanol.
Mae buddsoddiad ym maes ymchwil canser y gwaed gan Blood Cancer UK ac eraill wedi trawsnewid dros y 60 mlynedd diwethaf gan olygu bod mwy o bobl yn byw'n hirach.
Mae triniaethau arloesol yn cael eu datblygu a allai, os ydyn nhw ar gael yn y DU, chwyldroi gofal canser y gwaed ymhellach. Fodd bynnag, y gwir plaen yw bod gormod o bobl yn dal i farw o ganser y gwaed, ac mae'r DU bellach ar ei hôl hi i gymharu â gwledydd tebyg o ran ymchwil, canlyniadau a chyfraddau goroesi.
Fel cymuned canser y gwaed, roedd Blood Cancer UK eisiau deall pam fod llawer o bobl yn dal i farw o ganser y gwaed, ac am glywed profiadau a blaenoriaethau pobl sy'n byw gyda chanser y gwaed a'r bobl sy'n gweithio yn y GIG sy'n darparu eu gofal a'u triniaeth.
Roedd yr ymchwil a gomisiynwyd yn dadansoddi cyfraddau goroesi canser y gwaed yn y DU o'i gymharu â gwledydd eraill sydd â systemau iechyd a chyfoeth tebyg. Yn rhyfeddol, datgelodd fod:
- Mwy na miliwn o flynyddoedd o fywyd wedi cael eu colli i ganser y gwaed dros gyfnod o ddegawd.
- Mae'r tebygolrwydd y bydd rhywun yn goroesi eu canser y gwaed yn dibynnu ar eu cefndir, eu haddysg a lle maen nhw'n byw.
- Ar gyfer pob math o ganserau y gwaed, mae cyfraddau goroesi y DU ar ei hôl hi i gymharu â gwledydd cymaradwy sydd â systemau cyfoeth a gofal iechyd tebyg.
O ganlyniad i'w hymchwil, mae Blood Cancer UK wedi datblygu Cynllun Gweithredu sy'n amlinellu'r camau sydd angen eu cymryd i wella cyfraddau goroesi yn y DU.
Mae’n cynnwys 17 argymhelliad ar gyfer llywodraethau, y GIG, elusennau, y diwydiant fferyllol ac eraill i wella triniaeth a gofal yn y DU.
Mae'r argymhellion yn canolbwyntio ar ddiogelu'r gweithlu yn y dyfodol, diagnosis cyflymach o ganser y gwaed, y gofal gorau i gleifion canser y gwaed, mynediad cyfartal at dreialon a thriniaethau, a rhannu data.
Mae canser yn ganser ac mae pob claf, waeth pa fath o ganser y caiff ddiagnosis ar ei gyfer, yn haeddu mynediad at wasanaethau a thriniaethau sy'n mynd i roi'r canlyniad gorau iddo.
Mae lansiad eu Cynllun Gweithredu yn cyd-fynd â Mis Ymwybyddiaeth o Ganser y Gwaed. Bob blwyddyn mae mis Medi'n troi'n goch wrth i ni hoelio’n sylw’n gadarn ar ganser y gwaed a'r effaith y mae'n ei chael ar ein cymunedau a'r angen brys am fwy o weithredu.
Mae symptomau canser y gwaed yn cynnwys:
- Colli pwysau heb esboniad
- Cleisio neu waedu heb esboniad
- Lympiau neu chwyddiadau
- Allan o wynt (diffyg anadl)
- Chwysu’n ddiferol dros nos
- Heintiau sy'n barhaus, yn rheolaidd neu'n ddifrifol
- Twymyn (38°C neu uwch) heb esboniad
- Brech neu groen yn cosi heb esboniad
- Poen yn eich esgyrn, cymalau neu abdomen (ardal y stumog)
- Blinder nad yw'n gwella gyda gorffwys neu gysgu (gorflinder)
- Gwelw
Gan fod modd cysylltu'r symptomau â phroblemau iechyd eraill, mae diagnosio canser y gwaed yn aml yn anodd heb brawf gwaed.
Hyd yn oed os mai dim ond un symptom sydd gennych chi na allwch ei egluro, a’i fod wedi bod gennych chi ers cryn amser, neu os yw’r symptom yn anarferol i chi, trefnwch apwyntiad gyda'ch meddyg teulu. Os ydych chi'n teimlo'n sâl iawn ar unrhyw adeg, gofynnwch am gymorth meddygol ar unwaith drwy ffonio 999 neu drwy fynd i adran damweiniau ac achosion brys.
Am ragor o wybodaeth, ewch i Symptomau ac arwyddion canser y gwaed | Blood Cancer UK