Mae’r AS dros Orllewin Clwyd, Darren Millar, wedi gwneud galwadau newydd ar Lywodraeth Cymru i weithredu mesurau lliniaru sŵn ar yr A55 yn Llanddulas.
Wrth siarad yn y Senedd, ar ôl datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, dywedodd Darren:
"Mae llawer o etholwyr yn Llanddulas wedi cysylltu â mi yn ystod y misoedd diwethaf, ac roeddent yn dweud y byddent yn gwerthfawrogi'n fawr fanteision ffensys lliniaru sŵn, sydd, wrth gwrs, eisoes ar gael trwy lawer o drefi a phentrefi eraill ar hyd y rhan honno o'r rhwydwaith ffyrdd."
"Byddwn yn gwerthfawrogi pe gallech ddweud wrthym pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w cymryd yn y maes hwnnw."
Mewn ymateb, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
"Gwn fod Darren wedi ysgrifennu ataf yn ddiweddar ynghylch yr un mater o asesiadau sŵn ar yr A55. Mae'r asesiadau sŵn hynny'n cael eu cynnal ar hyn o bryd."
Ychwanegodd:
"Rwy’n gwybod y bu galw am ystyried mesurau dros dro. Yn anffodus, oherwydd ein bod yn cyrraedd diwedd y gwaith asesu, ni fyddai gweithredu mesurau dros dro ac yna gorfod eu tynnu'n ôl yn gwneud synnwyr, ac ni fyddai'n rhoi gwerth am arian."
"Felly, rydym eisiau gorffen y darn hwnnw o waith, gan asesu'r holl bwyntiau lle mae diflastod sŵn yn broblemus, ac yna gweithredu rhwystrau neu ba newidiadau bynnag sy'n angenrheidiol i wella bywydau pobl."
Wrth siarad wedyn, dywedodd Darren:
"Mae ymateb Ysgrifennydd y Cabinet yn galonogol, er fy mod yn siomedig o glywed na fydd mesurau dros dro yn cael eu hystyried."
"Er fy mod yn deall rhesymeg y Llywodraeth, ni fydd hyn yn gwneud fawr ddim i leihau'r rhwystredigaeth y bydd trigolion yn ei deimlo wrth orfod aros yn hirach i weld gweithredu ar lefelau sŵn."
"Rwy'n gobeithio y gall yr asesiadau sŵn ddod i ben yn gyflym, fel y gellir gweithredu er mwyn i drigolion weld y gwelliannau sydd eu hangen arnyn nhw."