Mae’r Aelod o’r Senedd dros Orllewin Clwyd, Darren Millar, yn edrych ymlaen at fynd i agoriad swyddogol hwb bancio newydd Abergele ddydd Gwener yma (14 Mehefin), a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fusnesau a thrigolion lleol.
Ar ôl i saith banc gau yn Abergele dros y blynyddoedd, gwnaeth Darren geisiadau dro ar ôl tro i LINK, rhwydwaith Mynediad Arian ac ATM y DU, i agor hwb yn y dref.
Felly, roedd ar ben ei ddigon yn gynnar y llynedd pan gyhoeddwyd bod Abergele’n un o'r trefi diweddaraf yn y DU i gael ei dewis ar gyfer hwb fel rhan o ymrwymiad ehangach i amddiffyn mynediad at arian parod.
Wrth sôn am agor yr Hwb yr wythnos hon, dywedodd Darren:
“Bydd agor hwb bancio yn Abergele yn cael ei groesawu'n fawr gan bobl yn y dref a'r cyffiniau.
“Er bod nifer o beiriannau ATM gerllaw a Swyddfa'r Post, does dim banciau yn Abergele ar hyn o bryd ac mae'n rhaid i drigolion deithio i Fae Colwyn neu'r Rhyl i ymweld â'u cangen, felly mae gwir angen yr hwb hwn.
“Mewn trefi lle mae hybiau eisoes ar waith, fel Prestatyn, maen nhw wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac rwy'n gwybod y bydd un Abergele hefyd.
“Mae gan yr hybiau wasanaeth cownter lle gall cwsmeriaid yr holl brif fanciau dynnu arian parod a thalu arian i mew i’w cyfrifon, talu biliau, a chyflawni trafodion bancio rheolaidd. Hefyd, mae ganddyn nhw fannau preifat lle gall cwsmeriaid siarad â rhywun o'u banc eu hunain am faterion mwy cymhleth. Bydd y banciau'n gweithio ar sail rota, felly bydd staff o wahanol fanciau ar gael ar ddiwrnodau gwahanol. Y nod yw y bydd holl brif fanciau'r ardal yn cymryd rhan yn y rota.
“Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at fynd i agoriad y cyfleuster hwn y mae mawr ei angen a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fusnesau a thrigolion lleol.”
Bydd yr hwb bancio newydd yn 67 Stryd y Farchnad, sef hen fanc Barclays.