Gyda llai nag wythnos yn weddill nes bod y plant yn dychwelyd i'r ysgol, mae gan rieni yn Llysfaen achos dathlu heddiw – mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cytuno i adfer y cludiant rhad ac am ddim o'r cartref i'r ysgol rhwng Llysfaen ac Ysgol Bryn Elian, er am gyfnod dros dro.
Ym mis Gorffennaf, er mawr siom i rieni, cyhoeddodd y cyngor y byddai'n rhoi’r gorau i’r gwasanaeth.
Ers hynny, mae’r AS dros Orllewin Clwyd, Darren Millar, wedi bod yn arwain ymgyrch yn galw ar y cyngor i ailystyried ei benderfyniad, a fyddai'n golygu bod yn rhaid i ugeiniau o ddisgyblion sy'n mynychu Ysgol Bryn Elian yn Hen Golwyn ddod o hyd i drefniadau teithio amgen o fis Medi ymlaen.
Pwysleisiodd Darren wrth y cyngor nad yw'r llwybr rhwng Llysfaen ac Ysgol Bryn Elian yn un hawdd a’i fod yn peri peryglon, yn enwedig mewn tywydd garw o ystyried topograffi'r llwybr, a diffyg croesfan i gerddwyr ar Heol Llanelian.
Tra'n gwerthfawrogi’r ffaith fod yr awdurdod lleol yn gorfod ystyried goblygiadau cyllidebol trefniadau cludiant o'r cartref i'r ysgol, dywedodd fod y penderfyniad i roi’r gorau i’r ddarpariaeth hon "yn un anghywir".
Yn gynharach y mis hwn, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus, dan gadeiryddiaeth Darren, gyda rhieni ac aelodau eraill o'r gymuned leol yn lleisio’u gwrthwynebiad i'r cynigion a hysbyswyd.
Yr wythnos hon, cafodd Darren wybod y bydd yr awdurdod lleol yn adfer y gwasanaeth bysiau dros dro.
Mewn llythyr yn hysbysu trigolion Llysfaen o'r newyddion cadarnhaol dywedodd:
"Rwy'n falch o roi diweddariad pellach i chi ar ein hymgyrch i sicrhau dyfodol cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol rhwng Llysfaen ac Ysgol Bryn Elian.
"Ddoe cysylltodd ein harbenigwr cyfreithiol Michael Imperato o Watkins & Gunn â mi, sydd wedi bod yn cynorthwyo ein hymgyrch. Dywedodd ei fod, ar ôl cyhoeddi llythyr cais i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yr wythnos diwethaf, bellach wedi cael gwybod y bydd yr awdurdod lleol yn adfer y gwasanaeth bws ysgol am ddim dros dro tra’i fod yn ystyried y materion a godwyd yn y llythyr.
"Mae hyn yn golygu y bydd bysiau ysgol i Ysgol Bryn Elian yn parhau i redeg fel arfer o ddechrau'r tymor yr wythnos nesaf."
Fodd bynnag, pwysleisiodd Darren wrth drigolion fod y frwydr ymhell o fod drosodd.
Ychwanegodd:
"Er bod hyn yn newyddion da, mae'n aneglur o hyd pa mor hir y bydd hi’n cymryd i'r cyngor ailystyried y trefniadau ac a fydd y cludiant am ddim i'r ysgol yn un parhaol. Ar y sail honno, bydd ein hymgyrch yn parhau, gyda chefnogaeth Michael Imperato a Watkins & Gunn.
"Rwyf wedi hysbysu'r Cynghorydd Phil Capper, Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Bryn Elian, am safbwynt yr awdurdod lleol.
"A fyddech cystal â rhannu hyn gyda rhieni a dysgwyr eraill a'u hannog i gofrestru i dderbyn diweddariadau yn y dyfodol trwy glicio ar y ddolen isod:
https://www.darrenmillar.wales/campaigns/home-school-transport-llysfaen"
Ar ôl derbyn y newyddion, dywedodd Darren:
"Er bod hyn yn newyddion cadarnhaol iawn ac yn golygu y bydd plant sy’n dychwelyd i'r ysgol yr wythnos nesaf yn gallu parhau i ddefnyddio'r gwasanaeth rhad ac am ddim hwn, mae yna risg bosibl y bydd y ddarpariaeth hon yn cael ei thynnu yn ôl yn yr hirdymor ac felly byddaf yn parhau â'r ymgyrch.
"Mae’n wasanaeth hanfodol i blant sy'n byw yn Llysfaen a byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau ei fod yn cael ei ddiogelu."
Dywedodd y Cynghorydd Phil Capper, Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Bryn Elian:
"Bydd y newyddion hwn yn rhyddhad enfawr i ddisgyblion a rhieni ond mae'r frwydr ymhell o fod drosodd.
"Bydd y Corff Llywodraethwyr yn parhau i ymgysylltu â Darren Millar a Michael Imperato i sicrhau bod gwasanaethau bws ysgol parhaol yn parhau i fod ar gael i ddysgwyr o Lysfaen."