Siaradodd Darren Millar, AS dros Orllewin Clwyd, yn agoriad swyddogol yr Hyb Bancio newydd yn Abergele heddiw.
Fe wnaeth Darren gais i LINK am yr hyb ar ôl i'r dref golli saith banc dros gyfnod o ddwy flynedd.
Cyhoeddwyd yn swyddogol ym mis Mawrth y llynedd y byddai hyb yn agor yng nghanol y dref, er mawr lawenydd i’r trigolion a Darren.
Heddiw aeth Darren i'r agoriad swyddogol lle gofynnwyd iddo ddweud ychydig eiriau fel yr un yn y gymuned a wnaeth gais am yr hwb.
Wrth siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd Darren:
“Roedd yn bleser mawr siarad yn agoriad swyddogol y cyfleuster newydd gwych hwn heddiw yn Abergele, a fydd yn gweddnewid bywydau trigolion a busnesau yn y dref a'r pentrefi cyfagos.
“Mae gweld banc ar ôl banc yn cau yn Abergele yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn destun pryder mawr. Ar bob achlysur fe wnes i herio'r banciau ynglŷn â'u penderfyniad, gan bwysleisio faint mae busnesau bach a thrigolion lleol, yn enwedig yr henoed a'r rhai bregus, yn dibynnu arnyn nhw. Yn anffodus, clust fyddar gafodd fy ngeiriau.
“Ar ôl clywed am lwyddiant hybiau bancio mewn trefi mewn sefyllfa debyg i Abergele, fe wnes i'r cais am un yng nghanol y dref.
“Roeddwn i wrth fy modd felly pan gyhoeddwyd y llynedd fod y cais wedi bod yn llwyddiannus ac y byddai un yn cael ei agor yn hen adeilad Banc Barclays y flwyddyn ganlynol.
“Felly roedd yr agoriad swyddogol bore ‘ma'n foment bwysig a balch i Abergele ac roeddwn i’n falch iawn o gael y cyfle i ddweud gair neu ddau.
“Rwy'n gwybod bod yr Hwb Bancio a agorwyd ym Mhrestatyn y llynedd wedi bod yn llwyddiant ysgubol, ac yn cael ei ddefnyddio gan fusnesau lleol yn ogystal â thrigolion o bob oed. Mae gen i bob hyder y bydd un Abergele yr un mor llwyddiannus.
“Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda LINK a Cash Access UK i sicrhau'r Hwb Bancio ar gyfer Abergele, ac edrychaf ymlaen at ei weld yn cael ei ddefnyddio'n gyson gan y cyhoedd, a fydd yn teimlo rhyddhad mawr nad oes rhaid iddyn nhw deithio milltiroedd i’r banc o heddiw ymlaen.”