Mae Darren Millar, AS Gorllewin Clwyd, wedi mynegi pryder bod mwy o ddirwyon wedi eu rhoi i yrwyr yn y Gogledd am dorri'r terfyn cyflymder 20mya o gymharu â phob rhan arall o Gymru.
Mae ffigwr mis Ebrill ar gyfer y Gogledd, sy'n dangos 660 o droseddau, yn fwy nag unrhyw gyfanswm misol ar gyfer Canolbarth a De Cymru gyda'i gilydd.
Wrth ymateb, dywedodd Darren:
“Dwi'n poeni'n fawr fod mwy o yrwyr yn y Gogledd wedi cael hysbysiadau cosb benodedig am dorri'r terfyn 20mya nag mewn unrhyw ran arall o Gymru, er bod ffigyrau'n dangos bod cyfartaledd cyflymder troseddwyr yn is yn y rhanbarth.
“Fy ofn byth ers i'r cynigion ar gyfer terfyn cyflymder cyffredinol o 20mya gael eu crybwyll gyntaf, oedd y gallai'r polisi newydd hwn atal pobl rhag dod i’r Gogledd – a gyda phenawdau'n dweud bod mwy o ddirwyon yn y rhanbarth hwn na rhannau eraill o'r wlad – gallai hynny ddigwydd.
“Mae’n ymddangos bod Llywodraeth Lafur Cymru’n benderfynol o gosbi modurwyr ac mae'n hynod annheg mai gyrwyr yn y Gogledd sy'n cael eu taro galetaf gan eu polisi trychinebus.
“Rhaid cofio bod 450,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i gael gwared ar yr 20mya, gan chwalu pob record yn y Senedd.”
Ychwanegodd:
“Mae'n rhaid i Lywodraeth Lafur Cymru gyfaddef ei bod wedi gwneud camgymeriad gyda'r polisi drud a diangen hwn a chymryd camau brys i'w wrthdroi, a mabwysiadu dull wedi’i dargedu ar gyfer osod terfynau cyflymder 20 mya ger ysgolion, meysydd chwarae, mannau lle mae llawer o ddamweiniau ac ati.”