Mae cefnffordd yr A494 trwy Rhuthun yn beryglus ac mae angen ei huwchraddio.
Mae Lôn Fawr a Ffordd Corwen yn ffyrdd i mewn i Rhuthun ac yn rhan o gylchffordd allweddol ar gyfer traffig a thrigolion, ond mae rhannau o Lôn Fawr yn beryglus o gul, mae’r terfyn cyflymder yn rhy uchel, ac mae angen ad–drefnu’r gyffordd â Ffordd Corwen er mwyn gwella diogelwch.
Llofnodwch y ddeiseb hon i alw ar Lywodraeth Cymru i ryddhau’r buddsoddiad cyfalaf sydd ei angen i ledu’r Lôn Fawr, gostwng y terfyn cyflymder a gwella’r gyffordd â Ffordd Corwen cyn gynted â phosibl.