Cafodd Darren Millar AS Gorllewin Clwyd ei roi dan y chwyddwydr pan gysylltodd yn ddigidol â phlant o ysgol yn ei etholaeth yr wythnos diwethaf.
Cymerodd Darren ran yn y rhaglen Deialog Ddigidol: Cymru, a gyflwynir gan y Politics Project, sy'n gweithio ledled y DU i gysylltu ysgolion a phobl ifanc â'u cynrychiolwyr etholedig trwy blatfformau fideo-gynadledda fel Zoom a Teams.
Cysylltodd Darren ag Ysgol Cynfran yn Llysfaen a gofynnodd disgyblion amrywiaeth o gwestiynau diddorol iddo.
Wrth siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd:
“Rydw i bob amser yn mwynhau cysylltu â phobl ifanc yng Ngorllewin Clwyd ac rwy’n ymweld ag ysgolion ledled yr etholaeth yn rheolaidd. Er ei bod yn braf gwneud hyn wyneb yn wyneb, rhoddodd y rhaglen Deialog Ddigidol gyfle i mi wneud pethau’n wahanol, ac fe wnaeth popeth weithio'n dda iawn.
“Gofynnwyd pob math o gwestiynau i mi gan y bobl ifanc, gan gynnwys cwestiynau am fy ngwaith fel cynrychiolydd etholedig lleol, a fy mywyd teuluol.
“Fe wnes i hefyd gyflwyno'r ysgol yn rhithiol i'm ci achub Blue ac fe wnaethon ni drafod materion lles anifeiliaid.
“Roedd yn dda gweld y plant mor frwd ac fe ofynnon nhw lawer o gwestiynau am bob math o bynciau, chwarae teg.
“Roedd yn sesiwn bleserus iawn ac rwy'n edrych ymlaen at gymryd rhan yn y prosiect eto yn y dyfodol, a chysylltu ar Zoom â mwy o ysgolion yng Ngorllewin Clwyd!”